"mlingo" poems
Heno, ‘dw i’n syllu,
Heno, ti’n gwingo,
Heno, ‘dw i’n gwintyllu
Yr awel sy’n ddi-flino.
Heno, ti adra,
A’r hiraeth wedi cilio.
Heno, ‘dw i adra,
A’r atgof yn fy mlingo.
Heno, does na’m newid
i be’ ti’n deimlo,
i be ‘dw i’n gofio.
Heno, nid oes addewid,
Heno, nid oes ni.
Sep 11, 2014
Sep 11, 2014 at 7:03 AM UTC